Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

E&S(4)-22-12 papur 1

Craffu ar waith y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

 

Portffolio Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Chyllid Ewropeaidd

 

 

1.    Fel Dirprwy Weinidog y portffolio helaeth hwn, mae cyfle i mi ddatblygu strategaethau newydd, integredig ac arloesol i sicrhau gwell ffyniant yn ein heconomïau amaethyddol, dyframaeth a gwledig, sicrhau ffyniant a chynnydd i’n diwydiannau tir a dŵr, a sicrhau’r manteision gorau posibl i’r economïau hynny o’r cyllid rydyn ni’n ei ddyrannu.

 

2.    Gall ein gweithgareddau yn y meysydd polisi hyn gyfrannu’n sylweddol at themâu allweddol gwella cynaliadwyedd, creu cyfoeth a lles, sydd wrth wraidd ein Rhaglen Lywodraethu.

 

Blaenoriaethau

 

3.    Er nad oes modd mynd i’r afael â holl faterion fy mhortffolio yn y papur hwn, rwyf wedi amlinellu manylion pellach isod ynghylch rhai o’m blaenoriaethau a’r gweithgareddau rwy’n bwrw ymlaen â nhw.

 

Hwyluso’r Drefn

 

4.    Ystyr hwyluso’r drefn yw rhoi fframwaith rheoleiddio cyson a phriodol i’n cwsmeriaid, pobl Cymru. Mae darn pwysig o waith wedi bod yn ymchwilio i’r baich rheoleiddio ar ein ffermwyr a chynnig gwasanaeth gwell i gwsmeriaid. Mae’r 74 o argymhellion yn Hwyluso’r Drefn yn ymwneud â 7 mater allweddol, gan gynnwys:

·         Cyfathrebu

·         Cymorth y PAC

·         Archwiliadau

·         Iechyd a lles anifeiliaid

·         Cadw cofnodion

·         Rheoliadau amgylcheddol

·         Arallgyfeirio

 

5.    Bydd ein gwaith ar Gwell Rheoleiddio a Hwyluso’r Drefn yn lleihau baich rheoleiddio ar fusnesau ffermio a’u helpu i gydymffurfio mor gyflym a synhwyrol â phosibl. Bydd Cyswllt Ffermio a’r Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm, ochr yn ochr â swyddogion rheng flaen eraill yn fy Adran, yn helpu i gyflawni’r amcan hwn drwy gynnig cefnogaeth a chymorth gwybodus i ffermwyr a choedwigwyr.

 

6.    Bydd datblygu ceisiadau ar-lein yn gyflym yn symleiddio’r cais SAF i gwsmeriaid, ac mae grŵp rhanddeiliaid penodedig eisoes yn cymryd rhan flaenllaw. Byddwn yn dechrau rhoi’r system ar brawf ym mis Tachwedd 2012, a bydd prosesau ymgeisio y SAF a Glastir ar-lein yn 2014.

 

7.    Rwyf wrthi’n rhoi cynllun gweithredu ar waith i gyflawni argymhellion Hwyluso’r Drefn a gyflwynwyd i mi gan Gareth Williams ym mis Ionawr. Bydd Aelodau’r Pwyllgor yn ymwybodol o’r adroddiad cynnydd ar ffurf Datganiad Ysgrifenedig y cyflwynais gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar y mater hwn ar 16 Gorffennaf 2012.

 

Y Strategaeth Fwyd

 

8.    Roedd y Strategaeth Fwyd a lansiwyd ym mis Rhagfyr 2010 yn bwrw golwg eang ac integredig ar faterion cyffredinol fel iechyd, diwylliant bwyd, addysg, diogelwch bwyd a’r newid yn yr hinsawdd. Nid oedd hyn wedi digwydd o’r blaen. Fodd bynnag, rwyf am fynd yn bellach a nodi’r camau penodol y mae angen eu cymryd i ddatblygu a chefnogi busnesau yn ein sector bwyd i greu swyddi, cyfoeth a busnesau cynaliadwy.

 

9.    Rwy’n croesawu sefydlu’r Panel Sector Bwyd a Ffermio ym mis Hydref. Mae gan ei aelodau enw da haeddiannol am ragoriaeth ar draws y sector, ac mae ganddynt rôl bwysig i’w chwarae o ran rhoi cyngor ychwanegol i Lywodraeth Cymru ar faterion allweddol. Mae hyn yn rhoi bwyd a ffermio wrth wraidd polisïau economaidd y Llywodraeth.

 

10. Rwy’n ymwybodol bod y Panel wedi bod yn canolbwyntio ar ddatblygu’i gyngor i Weinidogion ar set o flaenoriaethau strategol, a’r ymyriadau dilynol y bernir y mae eu hangen i roi mwy o swyddi a thwf i’r economi. Yn arbennig, maen nhw wedi bwrw golwg ar rai o’r strwythurau cymorth busnes presennol, caffael cyhoeddus, hyrwyddo bwyd, ymgysylltu â manwerthwyr, a brandio bwyd o Gymru. Mae’r Panel yn bwriadu rhoi cyngor i Weinidogion ar ôl eu cyfarfod ym mis Gorffennaf.

 

11. Rwyf wedi gwneud ymrwymiad cyhoeddus clir i sicrhau mwy o flaenoriaeth i’n sector bwyd dros y blynyddoedd nesaf. Un o’r chwe blaenoriaeth ar gyfer yr UE cyfan o dan y Rhaglen Datblygu Gwledig nesaf yw hyrwyddo trefniadaeth y gadwyn fwyd drwy integreiddio cynhyrchwyr sylfaenol yn well drwy gynlluniau ansawdd, hyrwyddo mewn marchnadoedd lleol a chylchoedd cyflenwi byr, grwpiau cynhyrchwyr a mudiadau rhyng-gangen.

 

12. Er mwyn llywio fy mhenderfyniadau yn y dyfodol ar y blaenoriaethau ar gyfer ymyriadau’r Llywodraeth, cynhaliais uwchgynhadledd fwyd uchel ei phroffil yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol ar 12 Gorffennaf eleni, ac roeddwn i wrth fy modd i Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru gytuno i agor y digwyddiad. Cymerais y cyfle pwysig hwn i wrando ar safbwyntiau ffigurau allweddol yn y sector bwyd. Bydd yr uwchgynhadledd yn sbardun ar gyfer ein gwaith strategol ar gynhyrchu bwyd yng Nghymru ac rwy’n edrych ymlaen at wneud datganiadau pellach ar ganlyniadau’r uwchgynhadledd yn ddiweddarach eleni.

 

13. Hefyd, ym mis Mehefin eleni, cynhaliais uwchgynhadledd y diwydiant llaeth yn Aberystwyth. Bydd Aelodau’r Pwyllgor wedi gweld y Datganiad Ysgrifenedig y cyhoeddais ar 11 Gorffennaf yn dilyn uwchgynhadledd y diwydiant llaeth.

 

Y Diwydiant Pysgota

 

14. Roedd fy natganiad gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 27 Mawrth yn gosod y ffordd y bydd Llywodraeth Cymru yn rheoli ein pysgodfeydd. Yn  fy natganiad, amlinellais fy uchelgais ar gyfer cyflawni cynaliadywedd hirdymor ein pysgodfeydd er mwyn diogelu stociau pysgod a swyddi pysgodfeydd ein cymunedau arfordirol fel ei gilydd. Mae mwyafrif ein pysgodfeydd yn gynaliadwy yn ôl eu natur, gyda chychod bach yn bennaf sydd ond yn gallu gweithio tua 100 diwrnod y flwyddyn ac sy’n defnyddio offer sefydlog gan fwyaf. Mae hyn yn golygu bod modd dewis a dethol yn hawdd – felly mae modd taflu pysgod sy’n rhy fach yn ôl i’r môr yn fyw.

 

Polisi Pysgodfeydd Cyffredin

 

15. Yn fy natganiad ar 27 Mawrth, amlinellais y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r cynigion i ddiwygio’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin. Nodais fy mod wedi dadlau y bydd angen diwygio’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin gan roi ystyriaeth ofalus i anghenion cymunedau pysgota arfordirol bach. Yn ogystal, rwyf wedi pwyso am ddull gweithredu mwy rhanbarthol sy’n galluogi Aelod-wladwriaethau i gydweithio a datblygu mesurau rheoli mewn ardaloedd fel Môr Iwerddon. Rwy’n croesawu’r cytundeb rhannol a luniwyd yn Lwcsembwrg ym mis Mehefin.

 

Polisi Amaethyddol Cyffredin

 

16.Rhoddais ddatganiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 22 Mai pan gyhoeddais Diwygio’r PAC 2014: Ymateb Llywodraeth Cymru. Mae’r papur hwn yn datgan fy marn ar y cynigion diwygio presennol. Hefyd rwy’n bwrw ymlaen â nifer o gamau gweithredu o dan faner y PAC, fel y nodir isod.

 

Gwahaniaethau mewn taliadau

 

17. Rwy’n cydnabod y gallai newid i cyfrifiad tir gor-syml fesul hectar o’r Taliad Uniongyrchol achosi newidiadau pellgyrhaeddol a sydyn yng Nghymru. Gallai Llywodraeth Cymru ystyried cyfuniad o fecanweithiau i sicrhau parhad yn y marchnadoedd a chydlyniant cymdeithasol yn dilyn y newid i daliadau ar sail arwynebedd. Mae’r rhain yn cynnwys y posibilrwydd o ddefnyddio nifer o gyfraddau gwahanol o daliad fesul hectar; y posibilrwydd o ddefnyddio cynllun cymorth cysylltiedig; meini prawf cymhwyster wedi’u mireinio ar gyfer y tir a ffermwyr actif; a newid dros gyfnod llawer hwy nag a ganiateir yn ôl y cynigion, ac mewn camau mwy graddol. Rwyf wedi pwyso ar y Comisiwn Ewropeaidd ynglŷn â hyn ac wedi cael ymateb ffafriol i weithredu system o daliadau gwahanol yng Nghymru. Mae gwaith modelu wedi bod yn mynd rhagddo, a bydd yn parhau i benderfynu ar yr opsiwn gorau i Gymru. Byddaf yn lansio ymgynghoriad ar y materion hyn yn yr hydref.

 

Elfennau gwyrdd y PAC

 

18. Mae’r cynigion gwyrdd drafft yn gymhleth a gallai rhai o’r mesurau arfaethedig fod yn anodd eu cyflawni yng Nghymru. Rwyf wedi pwyso’n gyson i aelodaeth o Glastir fod yn gyfystyr yn awtomatig ag elfennau gwyrdd, ac mae cynigion diweddar y Comisiwn yn cefnogi hyn. Byddaf yn parhau i ddadlau achos ar lefel yr UE ar gyfer mireinio’r mesurau ymhellach.

 

Ffermwyr Actif

 

19. Yn wyneb pwysau o bob tu, rydyn ni’n disgwyl i’r Comisiwn gael gwared ar y prawf incwm cartrefi o’r diffiniad ffermwyr actif a chaniatáu diffiniad Aelod-wladwriaeth. Rwy’n galw am hyblygrwydd rhanbarthol wrth bennu’r diffiniad hwn ac rwy’n teimlo y dylid mesur cysyniad y ffermwr actif yn ôl gweithgarwch ‘ar y fferm’ yn hytrach na gweithgarwch ‘oddi ar y fferm’. Os yw’r tir yn cael ei ddefnyddio a’i gadw mewn Cyflwr Amaethyddol ac Amgylcheddol Da, yna caiff yr amodau hanfodol at ddibenion amaethyddol eu bodloni.

 

Hawliau

 

20. Rwy’n pwyso i benderfyniadau am ddefnyddio hawliau gael eu gwneud yn rhanbarthol ac iddynt fod yn wirfoddol. Rwy’n cynnig bod y Comisiwn yn ystyried caniatáu i ni weithredu heb system hawliau wedi i’r cyfnod pontio arfaethedig ddod i ben.

 

21. Hefyd, mae’r cynigion yn nodi mai dim ond ffermwyr a dderbyniodd y Taliad Sengl yn 2011 drwy ddefnyddio o leiaf un hawl taliad fydd yn gymwys i gael taliadau yn 2014. Rwyf wedi galw’n gyson am fwy o hyblygrwydd i’r perwyl hwn. Mae fy nhrafodaethau diweddar ar y mater hwn yn dangos bod Senedd Ewrop a Llywyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd yn pwyso ar y Comisiwn Ewropeaidd ynghylch y pryderon hyn.

 

Taliadau Pontio

 

22. Rwyf o’r farn bod y cyfnod pontio arfaethedig o 5 mlynedd yn rhy fyr oherwydd nad yw’n ystyried yr effeithiau sylweddol ar rai yn sgil symud i daliadau arwynebedd, ac nid yw’n rhoi digon o amser i ffermwyr wneud yr addasiadau gofynnol i’w mentrau fferm. Rwy’n parhau i bwyso am gyfnod pontio hwy o 7 i 10 mlynedd, ac am gael bod yn fwy hyblyg i allu cyflwyno’r polisi hwn.

 

Y Cynllun Datblygu Gwledig cyfredol

 

23. Mae bron 80% o gyllid y CDG cyfredol yn canolbwyntio ar fesurau amaeth-amgylcheddol, ond byddai parhau fel hyn yn cyfyngu ar y cyfleoedd i fuddsoddi mewn blaenoriaethau eraill fel cyflogaeth wledig, busnesau bach a chanolig ac adfywio cymunedol. Rwyf wedi ymrwymo i drothwy gofynnol o 60% ar gyfer ein gweithgarwch amaeth-amgylcheddol yn rownd nesaf y CDG. Byddaf yn adolygu’r ffigur hwn yn y dyfodol, ond mae hyn yn dystiolaeth glir o fy ymrwymiad i amddiffyn yr amgylchedd yng Nghymru.

 

24. Yn ddiweddar, cyhoeddais Grŵp Cynghori y Cynllun Datblygu Gwledig i roi argymhellion ar ffurf bosibl y rhaglen newydd ar gyfer 2014 – 20. Prif ffocws y grŵp yw ymchwilio i’r holl bosibiliadau a chyfleoedd i leddfu effaith y newid o’r cynllun taliad sengl hanesyddol i daliadau ar sail arwynebedd o dan ddiwygiadau colofn 1. Bydd y grŵp yn ystyried y ffordd fwyaf effeithiol o amddiffyn ein hamgylchedd gwerthfawr, hyrwyddo a chefnogi cymunedau gwledig i fod yn fwy cynaliadwy ac economaidd weithgar, a sicrhau bod ein busnesau ffermio yn ddigon cryf i greu cyfoeth a diogelu a chreu swyddi.

 

Tagiau Electronig

 

25. Rwyf wedi datgan y safbwyntiau gwahanol diweddaraf ar faterion tagiau electronig defaid a gwartheg o dan y penawdau isod.

 

Tagiau Electronig Defaid

 

26. Cyhoeddais ym mis Mawrth y byddai Cymru’n datblygu gwasanaeth symud electronig ar gyfer defaid, gan ymgorffori cronfa ddata unigol ar gyfer defaid – ‘EIDCymru’. Mae gwaith yn mynd yn ei flaen i ddatblygu’r gwasanaeth ac rwy’n disgwyl gwneud cyhoeddiadau pellach yn yr hydref. Bydd y system yn cynnig seilwaith canolog sy’n galluogi ffermwyr i gadw’u cofrestrau daliad, cofnodi symudiadau, ac i’r rheini sy’n dewis systemau meddalwedd ar fferm sydd ar gael yn fasnachol, cofnodi systemau’n electronig.

 

27. Bydd y gwasanaeth yn cymryd lle’r prosesau â llaw cyfredol fel bod modd cofnodi data symud unwaith a’i ddefnyddio sawl gwaith. Bydd hyn yn dileu cryn dipyn o’r biwrocratiaeth presennol, ond mae tagiau electronig hefyd yn gyfle i ffermwyr wneud mwy o elw. Rydyn wrthi’n asesu’r cyfleoedd masnachol ychwanegol o ddefnyddio EID a byddwn yn annog ffermwyr i ystyried y cyfleoedd hyn pan fyddant ar gael.

 

 

 

Tagiau Electronig Gwartheg

 

28.Ym mis Awst 2011, cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd gynigion i gyflwyno tagiau electronig a diddymu’r gofynion gwirfoddol cyfredol ar gyfer labelu eidion. Gallai hyn olygu newidiadau sylweddol i bob Aelod-wladwriaeth, gan eu galluogi i gyflwyno tagiau electronig gorfodol, neu ddechrau defnyddiau tagiau electronig ochr yn ochr â systemau cyfredol. Mae rhai consesiynau wedi’u cynnwys, ond bydd angen asesu’r effaith bosibl yn ofalus, yn enwedig cost a chymhlethdodau gweithredu system ddeuol, yn ogystal â’r buddsoddiad sylweddol y mae ei angen mewn TG.

 

29.Yn ystod trafodaethau swyddogol, nodwyd ystod o faterion ynghylch prif bryder y DU am yr opsiwn gwirfoddol, sydd ar hyn o bryd yn caniatáu i ffermwyr (yn hytrach nag Aelod-wladwriaethau) ddewis pryd i gyflwyno tagiau electronig. Rwy’n teimlo y byddai hyn yn ddryslyd pe bai’n cael ei roi ar waith fel y drafftiwyd. Yn ddiweddar, daethpwyd i gyfaddawd, sy’n cynnig annibyniaeth i Aelod-wladwriaethau benderfynu pryd i ddefnyddio tagiau electronig gwirfoddol neu orfodol am gyfnod (efallai 7 mlynedd), ac wedi hynny bydd yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau gyflwyno tagiau electronig gorfodol.

 

30.Yn y pen draw caiff y cynnig ei ystyried gan Senedd Ewrop a’r Cyngor Gweinidogion. Y cynharaf y mae disgwyl cytundeb yw diwedd 2012 ac mae trafodaethau manwl pellach yn golygu efallai na chaiff y ddarpariaeth ei rhoi ar waith tan 2013-14 neu hyd yn oed yn hwyrach.

 

31.Er mwyn rhoi’r system ar waith yng Nghymru, bydd angen ystyried y gofynion yng ngweinyddiaethau eraill y DU i gytuno ar y newidiadau sydd eu hangen yn y pen draw i’r ddeddfwriaeth a’r system TG.

 

Y Sector Llaeth

 

32. Rwy’n ymrwymedig o hyd i wneud popeth yn fy ngallu i gefnogi’r diwydiant llaeth yng Nghymru ac mae Llywodraeth Cymru yn cynnig ystod eang o gymorth ar amryw gamau yn y gadwyn gyflenwi, drwy nifer o sianelau pwysig.

33. Mae cynhyrchu a phrosesu llaeth yn rhan allweddol o dreftadaeth ein cenedl. Mae arferion hwsmonaeth da a chynhyrchion sylfaenol o ansawdd, yn ogystal ag adnoddau prosesu rhagorol, yn rhan arwyddocaol o ddiwylliant Cymru. Rwy’n awyddus i edrych o’r newydd ar y blaenoriaethau ar gyfer y diwydiant i sicrhau bod ganddo ddyfodol iach yn yr hirdymor.

 

34. Yn uwchgynhadledd y diwydiant llaeth ar 22 Gorffennaf, daeth rhanddeiliaid o’r diwydiant llaeth ynghyd i drafod y materion allweddol. Diben yr uwchgynhadledd oedd gwrando ar eu safbwyntiau, yn enwedig o ran eu barn ynghylch beth dylai fod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth. Byddaf yn defnyddio’r wybodaeth o’r digwyddiad i lywio fy mhenderfyniadau yn y dyfodol ar gymorth ar gyfer y sector pwysig hwn yn y diwydiant.

 

35. Rwy’n awyddus i ymgysylltu’n uniongyrchol â rhanddeiliaid allweddol yn y diwydiant llaeth ac wedi datgan yn glir bod Llywodraeth Cymru am ganolbwyntio ar gyflawni camau wedi’u targedu i gynyddu cyfraniad economaidd y sector a chynyddu cyflogaeth, yn unol â’r Rhaglen Lywodraethu gyfredol. Mae uwchgynhadledd Mehefin, ynghyd â’r Uwchgynhadledd Fwyd uchel ei phroffil ar 12 Gorffennaf, ill dwy yn hanfodol bwysig o ran llywio fy mhenderfyniadau ar y ffordd orau o dargedu ymyriadau’r llywodraeth yn y tymor byr a’r hirdymor i gynnig y manteision gorau posibl i’r diwydiant a’r economi.

 

Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Bwyd

 

36. Bydd sefydlu Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Bwyd yn gorfodi’r Cod Ymarfer Cyflenwi Bwyd ar hyd y gadwyn gyflenwi i sicrhau arfer da ac ymchwilio i unrhyw amheuon o annhegwch. Er nad yw’r polisi cystadleuaeth wedi’i ddatganoli, gall rôl y Dyfarnwr effeithio ar swyddogaethau datblygu bwyd a ffermio sydd wedi’u datganoli. Manwerthwyr mawr fydd yn talu am y Dyfarnwr.

 

37. Mae Llywodraeth wedi cefnogi sefydlu Dyfarnwr o’r fath ers tro, fel sydd wedi’i nodi yn Rhaglen Lywodraethu 2011, ac rwyf wedi bod yn pwyso am gryfhau rôl y Dyfarnwr drwy roi’r pŵer iddo osod dirwyon o’r cychwyn, gwrando ar gwynion yn ddienw, a sicrhau mynediad mor eang â phosibl, a fyddai’n cynnwys cyflenwyr anuniongyrchol fel ffermwyr a chymdeithasau masnach. Er bod y Bil newydd yn cyflawni’r addewidion ar faterion mynediad a chyfrinachedd, nid yw’n rhoi’r pŵer o’r cychwyn i’r Dyfarnwr ddirwyo’r manwerthwyr hynny sy’n camddefnyddio’r cod cyflenwi bwyd. Mae fy swyddogion wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU i fynegi buddiannau Cymru yn llawn. Hefyd rwyf wedi ysgrifennu at yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau, ac rwy’n disgwyl cwrdd â Gweinidog y DU i fwrw ymlaen â’r mater.

 

38. Yn fras, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi sefydlu Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Bwyd ledled y DU. Rwy’n gobeithio gweld rhai gwelliannau pellach i’r Bil hwn wrth iddo fynd drwy Senedd y DU, a gweld y corff ei hun yn cael ei sefydlu’n fuan wedyn.

 

 

Cynaliadwyedd

 

39. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i bolisïau a gweithrediadau sy’n gynaliadwy. Wrth wraidd y meysydd blaenoriaeth a nodir yn y papur hwn mae cefnogaeth i bob agwedd ar arfer da o ran rheoli’r tir, ffermio cynaliadwy, prosesu bwyd, defnydd ynni a dŵr, a lleihau gwastraff. Bydd arfer da hefyd yn gwneud cyfraniad pwysig i amcanion Strategaeth Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru i leihau 3% bob blwyddyn ar allyriadau nwyon tŷ gwydr ac addasu i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd. Mae fy mhortffolio yn sbardun polisi hollbwysig ac yn rhan annatod o gyflawni dyheadau Llywodraeth Cymru i fod ar flaen y gad ym maes datblygu cynaliadwy, gan wynebu her y newid yn yr hinsawdd.

 

 

 

Alun Davies

Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Gorffennaf 2012